Wilson Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1795 Rhuthun |
Bu farw | 27 Hydref 1864 Yr Wyddgrug |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Roedd Wilson Jones (tua 1794 -27 Hydref 1864) yn Aelod Seneddol Ceidwadol Bwrdeistrefi Dinbych rhwng 1835 a 1841.[1]
Roedd Jones yn fab i John Jones, Cefn Coch Rhuthun ac Elizabeth, merch ac etifedd Edward Wilson, Lerpwl.
Ym 1822 Priododd Cecil merch John Carstairs, Warboys Swydd Huntingdon, bu iddynt 4 mab a 4 merch. Bu ei fab hynaf, John Carstairs Jones, yn Uchel Siryf Sir y Fflint ym 1866 a Sir Dinbych yn 1874. Priododd un o'u merched, Elizabeth Jane, ag Edmund Swetenham, AS Caernarfon.
Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Ddinbych ym 1831.
Daeth yn berchennog ar ystadau Cefn Coch Gelli Gynnan, Llanarmon a Heartsheath, Yr Wyddgrug.
Bu farw yn Heartsheath ym 1864 yn 70 oed.[2]