![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol ![]() |
---|---|
Idioleg | anti-fascism ![]() |
Label recordio | Folkways Records, Cub Records ![]() |
Dod i'r brig | 1930 ![]() |
Dod i ben | 1956 ![]() |
Genre | American folk music, Canu gwerin, canu gwlad ![]() |
Offerynnau cerdd | gitâr, ffidil, Harmonica, Mandolin, fiddle, llais ![]() |
Gwefan | https://www.woodyguthrie.org ![]() |
![]() |
Canwr a chyfansoddwr cerddoriaeth werin o Unol Daleithiau America oedd Woodrow Wilson Guthrie (14 Gorffennaf 1912 – 3 Hydref 1967), a adnabyddir fel Woody Guthrie. Roedd yn adnabyddus am ei gysylltiad â phobl y dref, y tlawd a'r gorthrymedig, yn ogystal â'i gasineb at ffasgiaeth a chamfanteisio.[1]
Creodd gannoedd o ganeuon gyda chynnwys gwleidyddol, caneuon traddodiadol eu naws a chaneuon i blant, yn ogystal â baledi a themâu byrfyfyr. Byddai'n perfformio'n aml gydag arwydd yn sownd wrth ei gitâr a oedd yn dweud "this machine kills fascists". Mae'n adnabyddus yn rhyngwladol am ei gân "This Land Is Your Land", sy'n dal i gael ei chanu mewn llawer o ysgolion yn yr Unol Daleithiau ac a gyfieithwyd i'r Gymraeg a'i chanu gan Dafydd Iwan ac fel sengl gyda Edward Morus Jones yn 1966. Mae llawer o'i ganeuon wedi'u harchifo yn Llyfrgell Gyngres yr Unol Daleithiau,[2] sydd hefyd yn cadw rhai llawysgrifau.[3]