Arwyddair | Equal Rights |
---|---|
Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
Enwyd ar ôl | Wyoming Valley |
Prifddinas | Cheyenne |
Poblogaeth | 576,851 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Wyoming |
Pennaeth llywodraeth | Mark Gordon |
Cylchfa amser | UTC−07:00, Cylchfa Amser y Mynyddoedd, America/Denver |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA |
Sir | Unol Daleithiau America |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 253,348 km² |
Uwch y môr | 2,040 metr |
Yn ffinio gyda | Montana, De Dakota, Nebraska, Colorado, Utah, Idaho |
Cyfesurynnau | 43°N 107.5°W |
US-WY | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Wyoming |
Corff deddfwriaethol | Wyoming Legislature |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Wyoming |
Pennaeth y Llywodraeth | Mark Gordon |
Talaith yng ngogledd-orllewin Unol Daleithiau America yw Wyoming. Nodweddir ei thirwedd gan fynyddoedd coediog a gwastadeddau glaswelltog. Mae ei adnoddau naturiol yn cynnwys olew, nwy naturiol, iwraniwm, glo, trona, clae bentonaidd a mwyn haearn. Dominyddir amaethyddiaeth y dalaith gan godi gwartheg. Mae'r diwylliannau yn cynnwys argraffu, prosesu olew a thwristiaeth. Mae ganddi arwynebedd tir o 253,596 km² (97,914 milltir sgwâr) a phoblogaeth o tua 555,000. Y brifddinas yw Cheyenne.
Mae'r tirwedd yn brydferth iawn ac yn cynnwys Parc Cenedlaethol Yellowstone a'r Grand Tetons.
Roedd Wyoming yn rhan o'r diriogaeth a brynwyd oddi wrth Ffrainc yn Mhryniant Louisiana yn 1803. Gyda dyfodiad Rheilffordd yr Union Pacific (1867 - 1869) cynyddodd y boblogaeth yn gyflym wrth i ymsefydlwyr gwyn o arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau gyrraedd a sefydlu trefi fel Laramie. Ni ddaeth Wyoming yn dalaith tan mor ddiweddar â 1890.