Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | Cenedlaetholdeb Gwyddelig |
Daeth i ben | 1921 |
Label brodorol | Irish Parliamentary Party |
Dechrau/Sefydlu | 1882 |
Rhagflaenwyd gan | Home Rule League |
Sylfaenydd | Isaac Butt, Charles Stewart Parnell |
Enw brodorol | Irish Parliamentary Party |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Y Blaid Seneddol Wyddelig (Saesneg:Irish Parliamentary Party (IPP)), a elwid weithiau y Blaid Wyddelig yn blaid a ffurfiwyd yn 1882 gan Charles Stewart Parnell, i gymeryd lle y Cynghrair Hunanlywodraeth fel plaid i genedlaetholwyr Gwyddelig.
Nôd y blaid oedd ennill hunanlywodraeth i Iwerddon o fewn y Deyrnas Gyfunol. Yn Etholiad Cyffredinol 1885, dan arweiniad Parnell, enillasant 86 o seddau yn Nhŷ'r Cyffredin. Roedd y rhain yn cynnwys un sedd yn Lloegr, yn un o seddau Lerpwl. Holltwyd y blaid yn dilyn yr helynt am y berthynas rhwng Parnell a gwraig briod, Kitty O'Shea, yn nechrau'r 1890au, ac yn Etholiad Cyffredinol 1892 roedd dwy blaid yn sefyll, un o blaid Parnell, dan arweiniad John Redmond, ac un yn ei erbyn dan arweiniad John Dillon. Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 1910, roedd y blaid, dan arweiniad John Redmond, mewn sefyllfa gref, gan fod y Blaid Ryddfrydol yn dibynnu ar eu pleidleisiau i barhau mewn grym. Cyflwynwyd mesur hunanlywodraeth i Iwerddon, ond dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 cyn iddo ddod yn weithredol.
Newidiwyd gwleidyddiaeth Iwerddon yn sylweddol gan yr adwaith i Wrthryfel y Pasg yn 1916. Yn Etholiad Cyffredinol 1918, collodd y Blaid Seneddol Wyddelig bron y cyfan o'u seddau i Sinn Fein, oedd yn galw am annibyniaeth llwyr yn hytrach na hunanlywodraeth.