Trem ar Fflorens, un o brif ddinasoedd y Dadeni Dysg. | |
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf, mudiad diwylliannol |
---|---|
Dechreuwyd | 14 g |
Daeth i ben | 17 g |
Rhagflaenwyd gan | celf Gothig, yr Oesoedd Canol, Oesoedd Canol Diweddar |
Olynwyd gan | Baróc, Cyfnod Modern Cynnar |
Lleoliad | Ewrop |
Yn cynnwys | y Dadeni Cynnar, yr Uchel Ddadeni, Proto-Renaissance, celf y Dadeni, y Dadeni Eidalaidd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfnod chwyldroadol yn hanes Ewrop oedd y Dadeni Dysg, neu yn syml y Dadeni, sydd yn nodi'r trawsnewid o'r Oesoedd Canol i'r cyfnod modern. Prif nodwedd yr oes hon oedd yr ailddeffroad yn nysgeidiaeth clasurol a'r ymdrech i adfywio ac adeiladu ar syniadau a gwerthoedd yr Henfyd, yn enwedig drwy ddyneiddiaeth. Dechreuodd ar droad y 13g a'r 14g yn yr Eidal, ac oddi yno ymledodd yn gyntaf yn y 15g i Sbaen a Phortiwgal ac yn yr 16g i'r Almaen, Ffrainc, y Gwledydd Isel, Lloegr, a Gwlad Pwyl. Datblygodd yng nghyd-destun argyfyngau'r Oesoedd Canol Diweddar a newidiadau cymdeithasol mawr y 14g a'r Diwygiad Protestannaidd yn y 15g. Yn ogystal â'r adfywiad clasurol a dyneiddiaeth, a fynegir drwy gyfryngau llenyddiaeth, celf, pensaernïaeth, a cherddoriaeth, nodir y Dadeni gan ddyfeisiau a darganfyddiadau newydd, gan gynnwys y cwmpawd, powdwr gwn, a'r wasg argraffu.