Y Democratiaid Rhyddfrydol Liberal Democrats | |
---|---|
Arweinydd | Ed Davey |
Dirprwy Arweinydd | Daisy Cooper |
Llywydd | Mark Pack |
Sefydlwyd | 3 Mawrth 1988[1] |
Unwyd gyda | Plaid Ryddfrydol (DU) Democratiaid Cymdeithasol |
Pencadlys | 8–10 Great George Street, Llundain, SW1P 3AE [2] |
Asgell yr ifanc | Liberal Youth |
Aelodaeth (2023) | 90,000+[3] |
Rhestr o idiolegau | Rhyddfrydiaeth Rhyddfrydiaeth gymdeithasol |
Sbectrwm gwleidyddol | Canol |
Partner rhyngwladol | Liberal International |
Lliw | Melyn |
Tŷ'r Cyffredin | 72 / 650 |
Tŷ'r Arglwyddi | 79 / 790 |
Cynulliad Llundain | 2 / 25 |
Llywodraeth leol | 3,085 / 18,646 |
Senedd yr Alban | 4 / 129 |
Senedd Cymru | 1 / 60 |
Gwefan | |
libdems.org.uk |
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn blaid wleidyddol ryddfrydol, gymdeithasol sy'n gweithredu yn y Deyrnas Unedig ac a elwir ar lafar yn Lib Dems. Hyd at 2015, hi oedd y drydedd blaid fwyaf o'r pleidiau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig.[4][5][6]
Ffurfiwyd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 1988 pan unwyd y Blaid Ryddfrydol a Plaid y Democratiaid Cymdeithasol (Social Democratic Party neu'r "SDP"). Cyn hynny am saith mlynedd, roedd y ddwy blaid wedi ffurfio'r 'Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr'. Hyd at 1988, bu'r Blaid Ryddfrydol mewn bodolaeth am 129 mlynedd, gydag arweinwyr cryf a Chymreig megis Gladstone a Lloyd George. Rhoddwyd cryn bwyslais ar ddiwygiadau rhyddfrydol er lles y gymdeithas, ac arweiniodd hyn at sefydlu'r Wladwriaeth les yng ngwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon. Yn 1920, fodd bynnag, goddiweddwyd y Rhyddfrydwyr gan y Blaid Lafur, fel y prif fygythiad i'r Blaid Geidwadol. Gwahanwyd y Rhyddfrydwyr a'r Llafurwyr ymhellach yn 1981 oherwydd i'r Blaid Lafur droi fwyfwy i'r asgell chwith.[7][8]
Etholwyd Nick Clegg yn Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2007 ac yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010, cipiwyd 57 o'r seddi ganddynt, a nhw felly oedd y drydedd blaid fwyaf o ran nifer yr Aelodau Seneddol. Roedd gan y Ceidwadwyr 307 a Llafur 258 AS, a gan nad oedd gan yr un blaid y mwyafrif clir, ymunodd y Democratiaid Rhyddfrydol gyda'r Ceidwadwyr i ffurfio cynghrair a phenodwyd Clegg yn Ddirprwy Brif Weinidog y DU.[9] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015, lleihawyd nifer ei haelodau Seneddol i 8 ac ymddiswyddodd Clegg fel Arweinydd ei blaid.[10]
|deadurl=
ignored (help)