Y Democratiaid Rhyddfrydol (DU)

Y Democratiaid Rhyddfrydol
Liberal Democrats
ArweinyddJo Swinson
Dirprwy ArweinyddEd Davey
LlywyddY Farwnes Brinton
Sefydlwyd3 Mawrth 1988 [1]
Unwyd gydaPlaid Ryddfrydol (DU)
Democratiaid Cymdeithasol
Pencadlys8–10 Great George Street,
Llundain, SW1P 3AE [2]
Asgell yr ifancLiberal Youth
Aelodaeth  (3 Mehefin 2015)increase 61,456 [3]
Rhestr o idiolegauRhyddfrydiaeth
Rhyddfrydiaeth gymdeithasol
Sbectrwm gwleidyddolCanol
Partner rhyngwladolLiberal International
Lliw     Melyn/Oren
Tŷ'r Cyffredin
11 / 650
[4]
Tŷ'r Arglwyddi
86 / 790
[5]
Cynulliad Llundain
1 / 25
Llywodraeth leol
248 / 19,698
[6]
Senedd yr Alban
5 / 129
Senedd Cymru
1 / 60
Gwefan
libdems.org.uk
Paddy Ashdown yn canfasio yn Chippenham yn 1992. Bu'n arweinydd rhwng 1988 a 1999.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn blaid wleidyddol ryddfrydol, gymdeithasol sy'n gweithredu yn y Deyrnas Unedig ac a elwir ar lafar yn Lib Dems. Hyd at 2015, hi oedd y drydedd blaid fwyaf o'r pleidiau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig.[7][8][9]

Ffurfiwyd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 1988 pan unwyd y Blaid Ryddfrydol a Plaid y Democratiaid Cymdeithasol (Social Democratic Party neu'r "SDP"). Cyn hynny am saith mlynedd, roedd y ddwy blaid wedi ffurfio'r 'Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr'. Hyd at 1988, bu'r Blaid Ryddfrydol mewn bodolaeth am 129 mlynedd, gydag arweinwyr cryf a Chymreig megis Gladstone a Lloyd George. Rhoddwyd cryn bwyslais ar ddiwygiadau rhyddfrydol er lles y gymdeithas, ac arweiniodd hyn at sefydlu'r Wladwriaeth les yng ngwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon. Yn 1920, fodd bynnag, goddiweddwyd y Rhyddfrydwyr gan y Blaid Lafur, fel y prif fygythiad i'r Blaid Geidwadol. Gwahanwyd y Rhyddfrydwyr a'r Llafurwyr ymhellach yn 1981 oherwydd i'r Blaid Lafur droi fwyfwy i'r asgell chwith.[10][11]

Etholwyd Nick Clegg yn Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2007 ac yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010, cipiwyd 57 o'r seddi ganddynt, a nhw felly oedd y drydedd blaid fwyaf o ran nifer yr Aelodau Seneddol. Roedd gan y Ceidwadwyr 307 a Llafur 258 AS, a gan nad oedd gan yr un blaid y mwyafrif clir, ymunodd y Democratiaid Rhyddfrydol gyda'r Ceidwadwyr i ffurfio cynghrair a phenodwyd Clegg yn Ddirprwy Brif Weinidog y DU.[12] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015, lleihawyd nifer ei haelodau Seneddol i 8 ac ymddiswyddodd Clegg fel Arweinydd ei blaid.[13]

  1. Robert Ingham and Duncan Brack, Peace, Reform and Liberation – A History of Liberal Politics in Britain 1679–2011, Biteback Publishing, 2011.
  2. "Revealed: The Liberal Democrats' new HQ". Libdemvoice.org. 21 Mai 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-24. Cyrchwyd 26 Mawrth 2013.
  3. "Membership Figures". Liberal Democrats. 17 Mehefin 2015. Cyrchwyd 17 Mai 2015.
  4. Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2019
  5. "Lords by party and type of peerage". Senedd y DU. August 2014. Cyrchwyd Awst 2014. Check date values in: |accessdate= (help)
  6. . Open Council Data. 28 Mai 2019 http://www.opencouncildata.co.uk/index.php. Cyrchwyd 28 Mai 2019. Missing or empty |title= (help)
  7. http://www.economist.com/news/britain/21645809-survive-party-government-lib-dems-must-hold-south-west-england-they-probably
  8. http://www.bbc.co.uk/programmes/p02ps438
  9. http://www.newstatesman.com/politics/2014/10/why-being-centrist-party-hasnt-helped-lib-dems
  10. Mike Finn (PSA Symposium) (Ebrill 2014). The Coalition and the Liberal Democrats: The Radical Centre in action?. Political Studies Association (forthcoming).
  11. Mark Satin (2004). Radical Middle: The Politics We Need Now. Westview Press and Basic Books. ISBN 978-0-8133-4190-3.
  12. "David Cameron is UK's new prime minister". bbc.co.uk. 12 Mai 2010. Cyrchwyd 12 Mai 2010.
  13. "Election results: Nick Clegg resigns after Lib Dem losses". BBC News. 8 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-24. Cyrchwyd 15 Mai 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy