Y Deyrnas Newydd

Ramesses II: un o'r pedwar cerflun enfawr tu allan i Abu Simbel.

Y Deyrnas Newydd yw'r enw a roddir i'r cyfnod rhwng tua 1570 CC a 1070 CC yn hanes yr Hen Aifft.

Syniad a ddatblygwyd gan eifftolegwyr yn y 19g oedd rhannu hanes yr Hen Aifft yn nifer o deyrnasoedd; nid oedd yr hen Eifftwyr ei hunain yn meddwl am eu hanes fel hyn. Ystyrir bod y Deyrnas Newydd yn cynnwys brenhinoedd y 18fed Brenhinllin hyd yr 20fed Brenhinllin.

Cyrhaeddodd grym yr Hen Aifft ei uchafbwynt yn ystod yr Hen Deyrnas, yn enwedig yn ystod teyrnasiad Thutmose III, a arweiniodd ymgyrchoedd milwrol tu hwnr i afon Ewffrates. Gwelodd y cyfnod yma hefyd chwyldro crefyddol Akhenaten, a theyrnasiad byr Tutankhamun, a ddaeth yn enwog pan gafwyd hyd i'w fedd yn nechrau'r 20g. Un arall o frenhinoedd adnabyddus y Deyrnas Newudd oedd Ramesses II (1279-1213 CC).

Daeth y Deyrnas Newydd i ben pan gollodd brenin olaf yr 20fed Brenhinllin, Ramesses XI, ei afael ar yr orsedd. Daeth Archoffeiriaid Amun yn Thebes y rheolwyr rhan ogleddol yr Aifft, tra daeth Smendes yn rheolwr y de, gan sefydlu'r 21ain Brenhinllin yn Tanis.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy