Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llandwrog |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 383 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 53.07°N 4.2284°W |
Cod OS | SH506547 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Mae'r Fron ( ynganaid ) (weithiau Llandwrog Uchaf neu Cesarea) yn bentref yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd. Saif ychydig i'r dwyrain o bentref Carmel, ym mhen draw y ffordd sy'n arwain tua'r mynydd o'r briffordd A487 yn y Groeslon. Mae Moel Tryfan i'r gogledd, Mynydd y Cilgwyn i'r gorllewin a Mynydd Mawr (weithiau Mynydd Grug neu Fynydd Eliffant) tua'r dwyrain.
Datblygydd y pentref tua chanol y 19g ger y ffordd wreiddiol i Chwarel Pen yr Orsedd a'r rheilffordd i Chwarel y Fron. Ar y llechweddau i'r dwyrain o'r pentref mae llawer o olion o gyfnod cynharach, olion tai crwn o'r math a elwir yn "gytiau'r Gwyddelod" ac olion hen gaeau. Yn 2002 defnyddiwyd Chwarel y Fron i ffilmio Lara Croft Tomb Raider: The Cradle of Life.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]