COVID-19 yng Nghymru | |
---|---|
Afiechyd | COVID-19 |
Straen firws | SARS-CoV-2 |
Lleoliad | Cymru |
Achos gwreiddiol cyntaf | Wuhan, China |
Dyddiad cyrraedd | 28 Chwefror 2020 |
Achosion wedi cadarnhau | 863,544 (ar 1 Ebrill 2022)[1] |
Marwolaethau | 7,172 (ar 1 Ebrill 2022)[2] |
Gwefan swyddogol | |
Coronavirus yng Nghymru |
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
Yn Rhagfyr 2019 ymddangosodd y clefyd Coronafirws, neu'r Gofid Mawr yn Wuhan, Tsieina. Ar 24 Ionawr 2020 dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cynlluniau yn eu lle yng Nghymru ar gyfer ymlediad epidemig o'r firws.[3] Ar y diwrnod hwn, hefyd, nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi profi un claf am yr haint, ond ei fod yn glir; yn Wuhan, roedd 26 wedi marw a Llywodraeth Tsieina wedi cyhoeddi cyfnod clo. Ar 1 Chwefror canslwyd y digwyddiad cyntaf yng Nghymru, sef Dathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ym Mangor a oedd i'w gynnal ar ddydd Sadwrn 1 Chwefror.[4]
Drwy wanwyn 2020, lledaenodd y clefyd yn fyd-eang, gyda WHO yn ei alw'n "bryder rhyngwladol" ar 30 Ionawr ac yn bandemig" ar 11 Mawrth 2020.[5][5][6] ychydig wedyn, ar 16 Mawrth bu farw'r person cyntaf yng Nghymru, a hynny yn ardal Caerffili.[7]
Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, ar y dydd olaf o Fawrth nododd Llywodraeth Cymru fod 1,300 o weithwyr iechyd a gofal wedi ymddeol wedi cytuno i ddychwelyd i'w gwaith er mwyn helpu'r gwasanaeth iechyd, gyda'r ffigwr hwn yn cynnwys 670 o ddoctoriaid, a thros 400 o nyrsys a bydwragedd. Ar 17 Mawrth, neilltuodd Llywodraeth Cymru £200 miliwn ar gyfer y byd busnes ac ar 30 Mawrth, rhyddhawyd pecyn cymorth gwerth £1.1bn ar gyfer yr economi a gwasanaethau cyhoeddus.[8]
Ar 2 Rhagfyr 2020 cyhoeddwyd fod y brechlyn mRNA gan Pfizer/BioNTech wedi ei gymeradwydo gan gorff yr MHRA ar gyfer ei ddefnyddio yng ngwledydd Prydain.[9] Ar 30 Rhagfyr, cymeradwywyd brechlyn arall, yr 'Oxford-AstraZeneca' a chychwynwyd ei ddefnyddio ar 4 Ionawr 2021.