Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru

COVID-19 yng Nghymru
AfiechydCOVID-19
Straen firwsSARS-CoV-2
LleoliadCymru
Achos gwreiddiol cyntafWuhan, China
Dyddiad cyrraedd28 Chwefror 2020
Achosion wedi cadarnhau863,544 (ar 1 Ebrill 2022)[1]
Marwolaethau
7,172 (ar 1 Ebrill 2022)[2]
Gwefan swyddogol
Coronavirus yng Nghymru
Perthnasol: Ystadegau Cymru, Fideos Llywodraeth Cymru, Llinellau amser 2019-20 a 2021

Yn Rhagfyr 2019 ymddangosodd y clefyd Coronafirws, neu'r Gofid Mawr yn Wuhan, Tsieina. Ar 24 Ionawr 2020 dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cynlluniau yn eu lle yng Nghymru ar gyfer ymlediad epidemig o'r firws.[3] Ar y diwrnod hwn, hefyd, nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi profi un claf am yr haint, ond ei fod yn glir; yn Wuhan, roedd 26 wedi marw a Llywodraeth Tsieina wedi cyhoeddi cyfnod clo. Ar 1 Chwefror canslwyd y digwyddiad cyntaf yng Nghymru, sef Dathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ym Mangor a oedd i'w gynnal ar ddydd Sadwrn 1 Chwefror.[4]

Drwy wanwyn 2020, lledaenodd y clefyd yn fyd-eang, gyda WHO yn ei alw'n "bryder rhyngwladol" ar 30 Ionawr ac yn bandemig" ar 11 Mawrth 2020.[5][5][6] ychydig wedyn, ar 16 Mawrth bu farw'r person cyntaf yng Nghymru, a hynny yn ardal Caerffili.[7]

Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, ar y dydd olaf o Fawrth nododd Llywodraeth Cymru fod 1,300 o weithwyr iechyd a gofal wedi ymddeol wedi cytuno i ddychwelyd i'w gwaith er mwyn helpu'r gwasanaeth iechyd, gyda'r ffigwr hwn yn cynnwys 670 o ddoctoriaid, a thros 400 o nyrsys a bydwragedd. Ar 17 Mawrth, neilltuodd Llywodraeth Cymru £200 miliwn ar gyfer y byd busnes ac ar 30 Mawrth, rhyddhawyd pecyn cymorth gwerth £1.1bn ar gyfer yr economi a gwasanaethau cyhoeddus.[8]

Ar 2 Rhagfyr 2020 cyhoeddwyd fod y brechlyn mRNA gan Pfizer/BioNTech wedi ei gymeradwydo gan gorff yr MHRA ar gyfer ei ddefnyddio yng ngwledydd Prydain.[9] Ar 30 Rhagfyr, cymeradwywyd brechlyn arall, yr 'Oxford-AstraZeneca' a chychwynwyd ei ddefnyddio ar 4 Ionawr 2021.

  1. "Public Health Wales Rapid COVID-19 Surveillance See Tab: Summary". public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!. 20 Ebrill 2020. Cyrchwyd 7 Mai 2020.
  2. "Cumulative deaths by Health Board of Residence See Tab: Deaths)". public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!. Cyrchwyd 19 Mai 2020.
  3. www.bbc.co.uk; adalwyd 28 Mawrth 2020.
  4. bangor.ac.uk; adalwyd 28 Mawrth 2020.
  5. 5.0 5.1 "Statement on the second meeting of the International Health Regulations (2005) Emergency Committee regarding the outbreak of novel coronavirus (2019-nCoV)". World Health Organization. 30 Ionawr 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Ionawr 2020. Cyrchwyd 30 Ionawr 2020.
  6. "WHO Director-General's opening remarks at the media briefing on COVID-19 – 11 Mawrth 2020". World Health Organization. 11 Mawrth 2020. Cyrchwyd 11 Mawrth 2020.
  7. "Coronavirus: First community transmission detected in Wales". BBC News. 11 Mawrth 2020. Cyrchwyd 11 Ebrill 2020.
  8. "Llywodraeth Cymru yn neilltuo £1.1bn i gefnogi busnesau". Golwg360. 2020-03-30. Cyrchwyd 2020-04-06.
  9. Sêl bendith i frechlyn coronafeirws – brechu i ddechrau’r wythnos nesaf? , Golwg360, 2 Rhagfyr 2020.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy