Y Lle Celf

Y Lle Celf
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Arddangosfa o gelf ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru ydy'r Lle Celf.[1] Ceir arddangosfa o waith celf wedi'i drefnu mewn partneriaeth rhwng yr eisteddfod a Chyngor Celfyddydau Cymru. Yn ôl Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod, Robyn Tomos, “Yn ogystal â chynnig llwyfan genedlaethol i artistiaid ifainc, mae’n hyrwyddo artistiaid sefydledig hefyd. Yn ogystal, mae gan yr Eisteddfod Genedlaethol ymrwymiad i annog gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o’r celfyddydau gweledol yng Nghymru.”

Y Lle Celf, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010, cynhaliwyd Y Lle Celf mewn pydew dwfn hen waith dur.[2]

  1. Y Lle Celf Archifwyd 2013-01-20 yn y Peiriant Wayback o wefan swyddogol yr Eisteddfod; adalwyd 17 Ebrill 2013
  2. Y Lle Celf Eisteddfod 2010 Archifwyd 2011-09-20 yn y Peiriant Wayback o wefan swyddogol yr Eisteddfod; adalwyd 09 Awst 2012

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in