Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 972 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7333°N 3.5667°W |
Cod SYG | W04000701 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Vikki Howells (Llafur) |
AS/au y DU | Beth Winter (Llafur) |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Rhigos.[1] Mae'n gorwedd yng ngogledd Cwm Cynon tua 7 milltir o Aberdâr, yn ymyl yr hen ffordd a gysylltai Aberdâr a Glyn Nedd cyn ymestyn yr A465.
Mae Glyn Nedd ddwy filltir i ffwrdd. Gorwedd Rhigos ar echel Cwm Cynon a Dyffryn Nedd, ac i'r gorllewin o'r pentref saif pentrefi bychain Cefn Rhigos a Chwm-hwnt.
Mae gan y pentref glwb rygbi lleol sef CRU Rhigos, ysgol gynradd, siop fechan a dwy dafarn: "Yr Aradr" a'r "New Inn".
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Beth Winter (Llafur).[2][3]