Y Stafell Ddirgel

Y Stafell Ddirgel
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol, gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurMarion Eames Edit this on Wikidata
IaithSaesneg, Cymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1969 Edit this on Wikidata


Clawr Y Stafell Ddirgel, Gwasg Gomer

Nofel hanesyddol gan Marion Eames yw Y Stafell Ddirgel. Mae'r nofel wedi'i lleoli yn rhannol yn ardal Dolgellau yn yr 17g. Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1969.

Mae'r nofel yn ymdrin â'r erlid a fu ar y Crynwyr yn dilyn dyfodiad Siarl II ar orsedd Lloegr. Mae'r nofel yn dechrau ym 1672, deuddeng mlynedd wedi'r Adferiad. Dilyniant i'r Y Stafell Ddirgel yw Y Rhandir Mwyn. Yn y nofel honno disgrifir helyntion y Cymry ar ôl iddynt ymfudo i Pennsylvania yn America gan obeithio osgoi'r erlid a fu arnynt yng Nghymru.

Daw Rowland Ellis, prif gymeriad y nofel, yn Grynwr o ganlyniad i ddylanwad cymydog ond nid yw ei wraig o'r un farn ag ef. Yn dilyn ei marwolaeth hi, mae'n ailbriodi ei gyfnither, sy'n cydymdeimlo ag achos y Crynwyr. Fe'u bradychir i'r awdurdodau gan un o gyn-weision ei fferm a theflir Ellis a'i gyd-grynwyr i'r carchar a'u dedfrydu i farwolaeth. Fe'u rhyddheir ar ôl ymyrraeth uniongyrchol y brenin, a phenderfynant ymfudo i America am fywyd gwell.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in