Y canwr a gitarydd B. B. King, a elwir "Brenin y Felan", yn perfformio ym 1971. | |
Enghraifft o'r canlynol | genre gerddorol |
---|---|
Math | cerddoriaeth boblogaidd, music of North America |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Dechrau/Sefydlu | 1890s |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o gerddoriaeth yw'r felan, y felan-gân, y bliws[1] neu'r blŵs[1] (Saesneg: blues, the blues neu blues music) a darddai o draddodiadau'r Americanwyr Affricanaidd yn ne Unol Daleithiau America yn ail hanner y 19g. Ffurf ar gerddoriaeth werin ydyw a ddatblygodd yn nhaleithiau Perfeddion y De, o'r 1860au ymlaen—oes yr Ailymgorfforiad yn sgil diwedd Rhyfel Cartref America—a ymgorfforai'r amryw ffurfiau ar ganu yn niwylliant y bobl dduon: emynau ysbrydol, alawon gwaith a chrïau'r caeau, gweiddganau a siantiau, a baledi traethiadol syml mewn odl. Nodweddir ffurf gerddorol y felan gan batrwm galw-ac-ateb, graddfa'r felan, a dilyniannau cordiau penodol, fel arfer y felan ddeuddeg-bar. Elfen bwysig arall o'r sain ydy'r meddalnodau neu nodau'r felan, hynny yw nodau a genir ar draw ychydig yn wahanol i'r arfer, gan amlaf trydyddau, pumedau, neu seithfedau a ostyngir gan chwarter neu hanner tôn. Atgyfnerthir rhythm llesmeiriol y felan gan nodau shiffl neu linell fas parhaus sy'n creu effaith ailadroddus a elwir groove.
Nodweddir genre'r felan gan ei geiriau, a sonir am deimladau, ofnau, a gobeithion personol, ei llinellau bar, a'i hofferyniaeth. Un linell a ailadroddir pedwar gwaith oedd y pennill traddodiadol yn y felan gynnar. Yn nechrau'r 20g daeth y strwythur gyffredin i ddiffinio'r felan nodweddiadol, sef patrwm AAB, gan gynnwys un linell a genir dros y pedair bar gyntaf, a ailadroddir dros y pedair bar nesaf, ac yna llinell arall dros y pedair bar olaf. Offerynnau gwreiddiol y felan oedd y banjo, y piano a'r ffidl, ac o fewn amser daeth i gynnwys y clarinét, y trwmped, y trombôn, y drwm ochr, y drwm bas, a'r symbalau. Yn yr 20g daeth y gitâr i fri yn y felan. Stori, disgrifiad neu fynegiant syml a draethir gan hen ganeuon y felan, fel arfer yn ymwneud ag anffafriaeth hiliol, tlodi, neu brofiadau eraill yr Americanwyr Affricanaidd.[2]
Gellir olrhain nifer o elfennau'r felan, gan gynnwys y patrwm galw-ac-ateb a'r meddalnodau, yn ôl i gerddoriaeth Affrica. Er ei bod yn seciwlar yn bennaf, tynnodd gwreiddiau'r felan yn gryf ar gerddoriaeth grefyddol y Cristnogion Affricanaidd-Americanaidd yn y 19g, yn enwedig y caneuon ysbrydol Negroaidd. Fel rheol, nodir rhyddfreinio'r caethweision yn yr Unol Daleithiau fel man cychwyn y felan, oes newydd o ryddid ac amser hamdden i'r Americanwyr croenddu, er iddynt parhau i ddioddef hiliaeth ac ôl-effeithiau caethwasiaeth. Dechreuodd fel cerddoriaeth leisiol ddigyfeiliant, ar sail traddodiad llafar cryf y cyn-gaethweision, a throdd nifer o dduon yn gantorion a cherddorion, yn eu cymunedau neu ar grwydr. Datblygodd yr arfer o ganu unawd gyda chyfeiliant gan y banjo, ac ambell weithiau'r piano, a ffynnodd yn ddiweddarach yn nhai tafarnau'r bobl dduon, y juke joints neu barrelhouses, yn nhaleithiau'r de-ddwyrain. Sonir yn gyntaf amdani fel math unigryw o ganu gan awduron ar droad y ganrif, a chyhoeddwyd yr esiampl gyntaf o gerddoriaeth ddalen y felan ym 1908. Esblygodd y felan yn sylweddol ac ymddangosodd sawl is-genre, gan gynnwys y felan wlad megis melan y Delta a melan Piedmont, hocwm a'r felan fudr, a chanu'r dinasoedd ar arfordiroedd y dwyrain a'r gorllewin. Ymledodd ar draws yr Unol Daleithiau, gan esgor ar arddulliau lleol ym Memphis, Houston, Birmingham, New Orleans, Dinas Kansas, St. Louis, a Chicago. Câi ddylanwad ar ddatblygiad mathau newydd o gerddoriaeth, yn enwedig trwy gyfuno â ragtime i ffurfio jazz, ac yno'n cymysgu eto â jazz i greu rhythm a blŵs, a fyddai'n croesi â chanu gwlad yr Americanwyr gwynion i greu roc a rôl. Yng nghanol yr 20g trodd y felan yn drydanol, a daeth ei sain yn fwy poblogaidd i bobl wynion yn yr Unol Daleithiau, ac mewn gwledydd eraill. Datblygwyd cyfuniad o gerddoriaeth roc ac arddulliau'r felan yn y 1960au a'r 1970au.