Y gynddaredd | |
Dosbarthiad ac adnoddau allanol | |
Ci gyda'r gynddaredd yn y cyfnod parlysaidd. | |
ICD-10 | A82. |
---|---|
DiseasesDB | 11148 |
MedlinePlus | 001334 |
eMedicine | med/1374 eerg/493 ped/1974 |
MeSH | [1] |
Afiechyd firaol sy'n achosi enseffalitis mewn bodau dynol ac anifeiliaid gwaed cynnes eraill yw'r gynddaredd.
Cysylltir cynddaredd yn bennaf â chŵn, ond gellir hefyd effeithio ar gathod, llwynogod, drewgwn, ac ystlumod fampir.[1] Caiff y firws ei drosgwlyddo i bobl drwy frathiad neu lyfiad ar grafiadau'r croen neu'r pilenni gludiog. Effeithir ar y system nerfol ganolog gan achosi confylsiynau, parlys, a rhithdybiau. Mae'r clefyd yn angheuol ac eithrio os caiff y claf ei wrth-heintio'n syth.