Enghraifft o'r canlynol | gwlad ar un adeg ![]() |
---|---|
Daeth i ben | 63 CC ![]() |
Poblogaeth | 35,000,000 ![]() |
Crefydd | Crefydd groeg yr henfyd ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 312 CC ![]() |
![]() | |
Olynydd | Parthia ![]() |
Gwladwriaeth | Ymerodraeth Seleucaidd ![]() |
![]() |
Yr Ymerodraeth Seleucaidd oedd y deyrnas Helenistaidd a sefydlwyd yn y Dwyrain Canol yn dilyn marwolaeth Alecsander Fawr, ac a barhaodd o 311 hyd 63 CC.
Sefydlwyd y deyrnas gan un o gadfridogion Alecsander, Seleucus I Nicator, Groeg: Σέλευκος Νικάτωρ (Nicator, "y Buddugol"). Wedi marwolaeth Alecsander daeth i reoli ardal eang oedd yn ymestyn hyd at Afon Indus. Tua 305 CC sefydlodd Seleucia ar y Tigris fel prifddinas newydd. Yn ddiweddarach, symudwyd y brifddinas i Antiochia.
Tyfodd y deyrnas yn ysfod teyrnasiad Antiochus Fawr, ond erbyn yr ail ganrif CC roedd yn dechrau dadfeilio. Cipiwyd llawer o'i thiriogaethau dwyreiniol gan y Parthia, ac yn 64 CC gorchfygodd byddin Gweriniaeth Rhufain dan Gnaeus Pompeius Magnus y gweddill.