Roedd Ymerodraeth y Mongol yn un o'r ymerodraethau mwyaf yn hanes y byd. Deilliodd o uniad y Mongoliaid a'r llwythau Twrcaidd yn yr hyn sydd heddiw yn wlad Mongolia. Cyhoeddwyd Genghis Khan yn rheolwr yr holl Fongoliaid yn 1206.
Yn y cyfnod yma, roedd Tsieina wedi ei rhannu yn bedair teyrnas. Ymosododd Ghengis Khan ar Hsi-hsia neu Xixia. Erbyn 1214 roedd wedi cyrraedd Beijing, a’r flwyddyn wedyn cipwyd y ddinas gan un o’i gadfridogion. Wedi hyn, dychwelodd i Mongolia, lle enillodd fuddugoliaethau pellach, gan ymestyn y ffin hyd at y teyrnasoedd Islamaidd yn y gorllewin. Erbyn 1223 roedd wedi gorchfygu teyrnas Jwarizm.
Erbyn 1279, roedd Ymerodraeth y Mongol yn ymestyn dros 33000000 km2, 22% o arwynebedd y ddaear, ac yn cynnwys poblogaeth o dros 100 miliwn o bobl. Fodd bynnag, erbyn hynny roedd wedi dechrau ymrannu, gyda'r Llu Aur a Khaniaeth Chagatai i bob pwrpad yn annibynnol ac yn gwrthod derbyn Kublai Khan fel Khagan. Erbyn marwolaeth Kublai Khan, roedd wedi ymrannu'n bedair rhan.