Mae ymneilltuaeth yng Nghymru (neu Anghydffurfiaeth) wedi bod yn ddylanwad mawr ar fywyd y genedl Gymreig ers yr 16g. Mae ei gwreiddiau i'w cael yn y Diwygiad Protestannaidd pan dorrodd nifer o wledydd yng ngogledd Ewrop yn rhydd o awdurdod yr Eglwys Gatholig.
Y Cymro Anghydffurfiol cyntaf o bwys oedd John Penry, a ferthyrwyd yn 1593. Yr eglwys Anghydffurfiol gyntaf yn y wlad oedd honno yn Llanfaches (Sir Fynwy) a sefydlwyd gan yr Annibynwyr yn 1639.
Ym myd gwleidyddiaeth tueddai'r Anghydffurfwyr cynnar i osgoi ymyrryd yn uniongyrchol yn y byd a'i bethau (heblaw mewn materion eglwysig). Am gyfnod gellid dweud fod Ymneilltuaeth Gymreig wedi bod yn geidwadol ond erbyn y 19g dechreuai Ymneilltuwyr chwarae rhan gynyddol bwysig yng ngwleidyddiaeth y wlad ac erbyn ail hanner y ganrif honno tueddai'r achos Ymneilltuol i fod ynghlwm wrth Radicaliaeth a'r alwad i Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru a hunanlywodraeth (neu Ymreolaeth) i Gymru. Un o ganlyniadau hyn oedd ffurfio mudiadau radicalaidd fel Cymru Fydd a chwyddo'r gefnogaeth i Ryddfrydiaeth.
Yn ddi-os, cafwyd effaith bell-gyrhaeddiol ar Gymru gan ddominyddiaeth Anghydffurfiaeth. Roedd cyfraniad awduron Anghydffurfiol i lenyddiaeth Gymraeg er enghraifft yn sylweddol iawn, ac esgorodd Anghydffurfiaeth ar rai o lenorion pwysicaf y Gymraeg, fel Morgan Llwyd, Ann Griffiths, William Williams Pantycelyn, Daniel Owen ac Owen Morgan Edwards. Er hyn, bu rhai beirniaid yn yr 20g, megis Saunders Lewis a John Rowlands, yn feirniadol iawn o effaith Anghydffurfiaeth ar ddiwylliant Cymru, gan ddadlau y cafodd ceidwadaeth celfyddydol yr enwadau effaith orthrymol ar ddiwylliant Cymreig (ym maes y nofel er enghraifft).[1][2]