Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014 | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhan o: Wrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd | |||||||
Ymosodiad gan fyddin Israel ar gartrefi yn ninas Gasa |
|||||||
|
|||||||
Rhyfelwyr | |||||||
Israel Arfau: Unol Daleithiau America[1][2] | Mudiadau Palesteinaidd | ||||||
Arweinwyr | |||||||
Benjamin Netanyahu Prif Weinidog Israel Moshe Ya'alon Gweinyddiaeth Amddiffyn Israel) | Ismail Haniyeh Mohammed Deif (Arweinydd brigâd Izz ad-Din al-Qassam) Ramadan Shalah (Arweinydd y PIJ) |
||||||
Unedau a oedd yn weithredol | |||||||
Llu Amddiffyn Israel Awyrlu Israel Llynges Israel Shin Bet | Asgell arfog Hamas | ||||||
Cryfder | |||||||
176,500 milwr[3] | Tua 10,000 o Balesteiniaid arfog[5][6] | ||||||
Clwyfwyd neu laddwyd | |||||||
64 milwr; 6 sifiliad (oedolion)[7] 400 milwr 23 sifiliad wedi'u hanafu | 2,145 wedi eu lladd (1,462 yn sifiliaid)[8] (ffynhonnell: Canolfan Iawnderau Palesteina) |
Lansiwyd Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014 (Hebraeg: מִבְצָע צוּק אֵיתָן, Mivtza' Tzuk Eitan, yn llythrennol: "Ymgyrch y Clogwyni Cedyrn"; Saesneg: Operation Protective Edge) ar 8 Gorffennaf 2014 gan Lu Amddiffyn Israel (IVF) yn swyddogol yn erbyn aelodau o Hamas ond erbyn 28ain o Awst roedd 2,145 o Balisteinaidd wedi eu lladd[9][10][11] (80% sifiliaid) a 10,895 o Balesteiniaid wedi'u hanafu.[12][13] Yn y cyfamser, lladdwyd 6 o sifiliaid Israelaidd. Cafwyd ymateb rhyngwladol chwyrn - gan mwyaf yn cytuno bod ymateb milwrol Israel yn rhy lawdrwm ("disproportional").
Roedd yr ymosodiad hwn gan Israel yn dilyn sawl ffactor gan gynnwys lladd tri bachgen; ac roedd awdurdodau Israel yn beio Hamas. Gwadodd Hamas unrhyw gysylltiad â llofruddiaeth y tri bachgen. Ffactorau cefndirol eraill oedd bod cyflwr bywyd yn y Llain Gaza wedi gwaethygu'n arw ers ei droi'n warchae yn 2005 a methiant cynlluniau Unol Daleithiau America i greu cynllun heddwch derbyniol.[14] Yn y gwrthdaro dilynol lladdodd byddin Israel 8 o Balesteiniaid ac arestiwyd cannoedd o bobl ganddynt. Ymatebodd Hamas drwy ddweud na fyddai'n ymatal hyd nes bod Israel yn rhyddhau'r bobl hyn.[15]
Erbyn y 12fed taniwyd 525 roced o Lain Gaza i gyfeiriad Israel ac ataliwyd 118 ohonynt gan system arfau Iron Dome Israel.[16] Credir bod 22 o sifiliaid Israelaidd wedi derbyn mân-anafiadau.
Yr ymosodiad hwn oedd y mwyaf gwaedlyd yn Gaza ers 1957.[17] Yn Ionawr 2015 cyhoeddwyd y byddai y Llys Troseddau Rhyngwladol yn agor Ymchwiliad i droseddau yn ymwneud ag Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014.
Cyhoeddodd Amnest Rhyngwladol nad oedd unrhyw dystiolaeth bod sifiliaid wedi cael eu defnyddio fel tariannau i amddiffyn arfau neu bersonél. Cyhoeddodd Human Rights Watch fod ymateb llawdrwm Israel yn "disproportionate" and "indiscriminate".[18]
|date=
(help)
|accessdate=
(help)