Math | naval offensive, brwydr, air offensive |
---|---|
Nifer a laddwyd | 2,469 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | yr Ail Ryfel Byd, Pacific War campaigns |
Lleoliad | Pearl Harbor |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 21.365°N 157.95°W |
Cyfnod | 7 Rhagfyr 1941 |
Cyrch filwrol annisgwyl gan lynges Japan ar ganolfan lyngesol yr Unol Daleithiau ar fore Sul, 7 Rhagfyr, 1941, oedd ymosodiad ar Pearl Harbor. Arweiniodd y cyrch hwn at yr Unol Daleithiau yn dod yn rhan o'r Ail Ryfel Byd. Nod y cyrch oedd atal Fflyd Cefnfor Tawel yr Unol Daleithiau rhag dylanwadu ar y rhyfel roedd Japan yn bwriadu ymladd yn Ne-ddwyrain Asia yn erbyn y Deyrnas Unedig, yr Iseldiroedd a'r Unol Daleithiau. Roedd yr ymosodiad yn cynnwys dau gyrch awyr o 353 o awyrennau.
Yn yr ymosodiad, suddwyd pedwar o longau brwydro Llynges yr Unol Daleithiau a difrodwyd nifer yn fwy. Suddodd y Japaneaid dri criwser, tri llong ddistryw, ac un llong gosod ffrwydron, gan ddinistrio 188 awyren ac achosi marwolaethau 2,402 o bersonel ac anafu 1,282. Ni drawyd yr orsaf bŵer, yr iard longau a'r adnoddau tanwydd a thorpedo, yn ogystal â phier y llongau tanfor ac adeilad y pencadlys. Prin oedd colledion Japan, gan golli 29 awyren a phedwar llong danfor bychan. Lladdwyd ac anafwyd 65 o bersonel Japaneaidd.
Chwaraeodd yr ymosodiad rhan allweddol yn yr Ail Ryfel Byd. Digwyddodd yr ymosodiad cyn i'r rhyfel gael ei datgan yn swyddogol a chyn i'r rhan olaf o'r neges 14 rhan gael ei dosbarthu i'r Adran Daleithiol yn Washington D.C.. Cyfarwyddwyd Llysgenhadaeth Japan yn Washington i ddosbarthu'r neges yn union cyn yr amser y bwriadwyd yr ymosodiad yn Hawaii. Roedd yr ymosodiad, ac yn benodol ei natur annisgwyl, yn ffactorau dylanwadol yn newid safbwyntiau ynysig cyhoedd yr Unol Daleithiau i gefnogi ymuno a'r rhyfel. Pan ddatganodd yr Almaen y rhyfel, daethpwyd a'r Unol Daleithiau yn rhan o ryfel Ewropeaidd hefyd. Er gwaethaf nifer o gyrchoedd annisgwyl dros y canrifoedd, arweiniodd y ffaith na wnaed unrhyw ddatganiad ffurfiol o ryfel cyn yr ymosodiad i'r Arlywydd Franklin D. Roosevelt i ddatgan "December 7th, 1941 — a date which will live in infamy".