جمهورية مصر العربية | |
Arwyddair | مصر أمّ الدنيا |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, Gwlad drawsgyfandirol, un o wledydd môr y canoldir, gwlad |
Enwyd ar ôl | Ptah, Mizraim |
Prifddinas | Cairo |
Poblogaeth | 114,535,772 |
Sefydlwyd | 28 Chwefror 1922 (Annibyniaeth o Loegr) 18 Mehefin 1953 (Datganiad o annib.) |
Anthem | Bilady, Bilady, Bilady |
Pennaeth llywodraeth | Mostafa Madbouly |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Affrica, Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia |
Gwlad | Yr Aifft |
Arwynebedd | 1,010,407.87 ±0.01 km² |
Gerllaw | Y Môr Canoldir, Afon Nîl, Y Môr Coch |
Yn ffinio gyda | Swdan, Libia, Israel, Gwladwriaeth Palesteina, Bir Tawil, Lefant |
Cyfesurynnau | 27°N 29°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth yr Aifft |
Corff deddfwriaethol | Parliament of Egypt |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Llywydd yr Aifft |
Pennaeth y wladwriaeth | Abdel Fattah el-Sisi |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog yr Aifft |
Pennaeth y Llywodraeth | Mostafa Madbouly |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $424,672 million, $476,748 million |
Arian | punt yr Aifft |
Cyfartaledd plant | 3.338 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.731 |
Gwlad Arabaidd yng Ngogledd Affrica, rhan o'r Dwyrain Canol, yw Gweriniaeth Arabaidd yr Aifft neu'r Aifft (Arabeg مصر, sef Misr, neu Másr yn dafodiaith yr Aifft). Er bod y wlad yn Affrica, cyfrifir Gorynys Sinai, i'r dwyrain o Gamlas Suez, yn rhan o Asia. Mae rhan fwyaf o bobl yr Aifft yn byw ar lannau Afon Nîl (40,000 km²). Ond mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn rhan o ddiffeithdir y Sahara, ac felly â dwysedd poblogaeth isel iawn.
Mae'r Aifft yn ffinio â Libya i'r gorllewin, y Swdan i'r de, a Llain Gaza ac Israel i'r dwyrain. Mae rôl bwysig yr Aifft mewn daear-wleidyddiaeth yn deillio o'i safle strategol: cenedl draws-gyfandirol, mae ganddi bont-tir (Isthmus Suez) rhwng Affrica ac Asia, wedi'i chroesi gan ddyfrffordd fordwyol (sef Camlas Suez ) sy'n cysylltu Môr y Canoldir â Chefnfor India ar hyd y Môr Coch.
Mae'r wlad yn enwog am ei hanes hynafol a'i hadeiladau trawiadol o gyfnod yr Hen Aifft er enghraifft pyramidiau Cheops (Khufu) a Khafre, Teml Karnak, Dyffryn y Brenhinoedd a lleoedd eraill. Heddiw, ystyrir mai'r Aifft yw canolbwynt gwleidyddol a diwylliannol y Byd Arabaidd.
Yn dilyn 18 diwrnod o brotestio ledled y wlad ymddiswyddodd yr Arlywyd Hosni Mubarak sydd yn briod gyda hanner Cymraes, Suzanna Mubarak ar 11 Chwefror, 2011 gan drosglwyddo pwer y wlad i'r Llu Arfog.[1][2] Cynhaliwyd refferendwm cyfansoddiadol ar 19 Mawrth 2011 ac ar 28 Tachwedd 2011, cynhaliodd yr Aifft etholiad. Roedd y ganran a bleidleisiodd yn uchel ac nid oedd unrhyw adroddiadau o afreoleidd-dra neu drais mawr.[3] Etholwyd Mohamed Morsi ar arlywydd.[4] Fe'i beirniadwyd yn llym am fod yn Islam-eithafol a chododd protestiadau drwy'r Aifft yn erbyn Islamwyr yn Rhagfyr 2012 a gwanwyn 2013.[5] Ar 4 Gorffennaf 2013, gwnaed Adly Mansour, 68 oed, Prif Ustus Goruchaf Lys Cyfansoddiadol yr Aifft yn llywydd dros dro llywodraeth newydd yn dilyn diswyddo Morsi.[6] Ym Mawrth 2014 etholwyd Abdel Fattah el-Sisi yn Arlywydd.[7]
Mae gan yr Aifft hanes hirach nag unrhyw wlad, gan olrhain ei threftadaeth ar hyd delta neu aber yr Afon Nîl yn ôl i'r 6ed-4ydd mileniwm CC. Caiff ei cael ei hystyried yn grud gwareiddiad, a gwelodd yr Hen Aifft rai o ddatblygiadau cynharaf ysgrifennu, amaethyddiaeth, trefoli, crefydd gyfundrefnol a llywodraeth ganolog.[8] Ceir henebion eiconig fel Pyramidau Giza a'i Sffincs Mawr, yn ogystal ag adfeilion Memphis, Thebes, Karnak, a Dyffryn y Brenhinoedd, sy'n adlewyrchu'r etifeddiaeth hon ac yn parhau i fod yn ffocws sylweddol o ddiddordeb gwyddonol a thwristaidd. Mae treftadaeth ddiwylliannol hir a chyfoethog yr Aifft yn rhan annatod o'i hunaniaeth genedlaethol, sy'n adlewyrchu ei lleoliad traws-gyfandirol unigryw sef Môr y Canoldir, y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica ar yr un pryd.[9] Roedd yr Aifft yn ganolfan bwysig i Gristnogaeth gynnar ond cafodd ei Islameiddio i raddau helaeth yn y 7g ac mae'n parhau i fod yn wlad Foslemaidd Sunni'n bennaf, er bod ganddi leiafrif Cristnogol arwyddocaol, ynghyd â chrefyddau llai ymarferedig eraill hefyd.
Mae'r Aifft Fodern yn dyddio'n ôl i 1922, pan enillodd annibyniaeth oddi wrth yr Ymerodraeth Brydeinig (hy Lloegr) a hynny fel brenhiniaeth. Yn dilyn chwyldro 1952, datganodd yr Aifft ei hun yn weriniaeth, ac ym 1958 unodd â Syria i ffurfio'r Weriniaeth Arabaidd Unedig, a ddiddymodd yn 1961. Trwy gydol ail hanner yr 20g, dioddefodd yr Aifft ymryson cymdeithasol a chrefyddol ac ansefydlogrwydd gwleidyddol, gan ymladd sawl gwrthdaro arfog ag Israel yn 1948, 1956, 1967 a 1973, a meddiannu Llain Gaza yn ysbeidiol tan 1967. Ym 1978, arwyddodd yr Aifft y Camp David Accords, gan dynnu'n ôl yn swyddogol o Lain Gaza a chydnabod Israel. Mae’r wlad yn parhau i wynebu heriau, o aflonyddwch gwleidyddol, gan gynnwys chwyldro diweddar 2011 a’i ganlyniadau, i derfysgaeth a thanddatblygiad economaidd. Mae llywodraeth bresennol yr Aifft, gweriniaeth lled-arlywyddol dan arweiniad Abdel Fattah el-Sisi, wedi’i disgrifio gan nifer o gyrff gwarchod fel awdurdodaidd (authoritarian), sy’n gyfrifol am barhau â record hawliau dynol problemus y wlad.
Islam yw crefydd swyddogol yr Aifft ac Arabeg yw ei hiaith swyddogol.[10] Gyda dros 100 miliwn o drigolion, yr Aifft yw'r wlad fwyaf poblog yng Ngogledd Affrica, y Dwyrain Canol, a'r byd Arabaidd, y trydydd mwyaf poblog yn Affrica (ar ôl Nigeria ac Ethiopia), a'r bedwaredd ar ddeg fwyaf poblog yn y byd. Mae mwyafrif helaeth ei phobl yn byw ger glannau Afon Nîl, ardal o tua40,000 cilometr sg, lle ceir yr unig dir ffrwythlon. Prin yw'r bobl sy'n byw yn ardaloedd mawr anialwch y Sahara, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o diriogaeth yr Aifft. Mae tua hanner trigolion yr Aifft yn byw mewn ardaloedd trefol, gyda'r rhan fwyaf wedi'u gwasgaru ar draws canolfannau poblog mwyaf Cairo, Alexandria a dinasoedd mawr eraill y Delta.
Ystyrir yr Aifft yn bŵer rhanbarthol yng Ngogledd Affrica, y Dwyrain Canol a'r byd Mwslemaidd, ac yn bŵer canol ledled y byd.[11] Mae'n wlad sy'n datblygu, yn safle 116 ar y Mynegai Datblygiad Dynol. Mae ganddi economi arallgyfeirio, sef y drydedd-fwyaf yn Affrica, yr economi 33fed fwyaf yn ôl CMC enwol, a'r 20fed fwyaf yn fyd-eang yn ôl PPP. Mae'r Aifft yn aelod sefydlol o'r Cenhedloedd Unedig, y Mudiad Anghydnaws, y Gynghrair Arabaidd, yr Undeb Affricanaidd, Sefydliad Cydweithrediad Islamaidd a Fforwm Ieuenctid y Byd.