Math | amgueddfa genedlaethol, corff cyhoeddus anadrannol, oriel gelf, amgueddfa |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Camden, Metropolitan Borough of Holborn |
Agoriad swyddogol | 1759 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | adeilad yr Amgueddfa Brydeinig, Bloomsbury |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5194°N 0.1269°W |
Cod post | WC1B 3DG |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Sefydlwydwyd gan | Hans Sloane |
Manylion | |
Mae'r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain yn gartref i dros 8 miliwn o arteffactau o ddiwylliant a hanes dynol, ac felly yn un o'r casgliadau mwyaf sylweddol o'i bath ledled y byd.[1] Sefydlwyd hi gan ddeddf Seneddol ym 1753, a chasgliad yn perthyn i'r meddyg Syr Hans Sloane (a fu farw y flwyddyn honno) a ffurfiodd gnewyllyn yr amgueddfa wreiddiol.
Lleolir yr amgueddfa ar hen safle plasdy'r teulu Montagu, mewn adeilad a gynlluniwyd yn yr arddull Roegaidd gan Syr Robert Smirke. Ychwanegodd ei frawd iau, Sydney Smirke, y llyfrgell crwn enwog a saif yng nghwrt canolog yr adeilad. Gorchuddiwyd y cwrt hwnnw â tho gwydr gan yr Arglwydd Norman Foster yn 2000.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn diogelu rhai o'r arteffactau, fe'u cymerwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Gorsaf Reilffordd Holborn, Llundain a phlasty yn Malvern er mwyn eu gwarchod yn ddiogel. Ceir yn yr Amgueddfa nifer o drysorau o Gymru gan gynnwys Clogyn aur Yr Wyddgrug. Yma hefyd y cedwir marmorau Elgin a Charreg Rosetta.[2]
Yn 2014 ymwelodd 6,701,043 o bobl â'r Amgueddfa.[3]