Yr Eglwys Gatholig Rufeinig

Yr Eglwys Gatholig Rufeinig
Allweddi Sant Pedr, symbol o'r Babaeth
Enghraifft o'r canlynolenwad Cristnogol, historic church, yr Eglwys Gristnogol Edit this on Wikidata
CrefyddCatholigiaeth edit this on wikidata
Rhan oCatholigiaeth Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadpab Edit this on Wikidata
SylfaenyddIesu Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolAssociation of Christian Churches in Germany Edit this on Wikidata
Pencadlysy Fatican Edit this on Wikidata
Enw brodorolEcclesia Catholica Romana Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Fatican Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.vatican.va/content/vatican/it.html Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yr Eglwys Gatholig, a elwir hefyd yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yw'r eglwys Gristnogol fwyaf, gyda 1,285,000,000 (2015)[1] o Gatholigion yn y byd, gan gynnwys 5,700,000 ymg ngwledydd Prydain a 58,000,000 yn UDA. Fel y sefydliad rhyngwladol hynaf a mwyaf yn y byd,[2] mae wedi chwarae rhan amlwg yn hanes a datblygiad gwareiddiad y Gorllewin.[3] Mae'r eglwys yn cynnwys 24 o eglwysi penodol a bron i 3,500 o esgobaethau ac ysgrifau o gwmpas y byd. Y pab, sy'n esgob Rhufain, yw prif weinidog yr eglwys.[4] Esgobaeth Rhufain, a adnabyddir fel Esgobaeth y Pab, yw awdurdod llywodraethu canolog yr eglwys. Mae gan gorff gweinyddol Esgobaeth y Pab, sef y Llys y Pab, ei brif swyddfeydd yn Ninas y Fatican, cilfach fechan o Rufain; gyda'r Pab, i bob pwrpas, yn 'bennaeth y wladwriaeth' arni.

Mae credoau craidd Catholigiaeth i'w cael yng Nghredo Nicea, gyda'r Eglwys Gatholig yn dysgu mai hi yw'r un eglwys sanctaidd, gatholig ac apostolaidd a sefydlwyd gan Iesu Grist yn ei Gomisiwn Mawr.[5][6] Cred hefyd mai ei hesgobion yw olynwyr disgyblion Crist, a bod y pab yn olynydd i Sant Pedr, ac i hynny gael ei gadarnhau gan Iesu Grist. Mae’n dadlau ei bod yn ymarfer y ffydd Gristnogol wreiddiol a ddysgwyd gan yr apostolion, gan warchod y ffydd yn trwy’r ysgrythur a thraddodiad cysegredig fel y’i dehonglir trwy fagisteriwm yr eglwys. Mae cydrannau ohoni e.e. yr Eglwys Ladin (o’r ddefod Rhufain), y 23 Eglwysi Uniadol y Dwyrain, a sefydliadau megis urddau mynachaidd a'r trydydd urddau (y Tertius Ordo, neu'r lleygwyr) yn adlewyrchu amrywiaeth o bwyslais diwinyddol ac ysbrydol gwahanol o fewn yr eglwys.[7]

O'i saith sagrafen, y Cymun yw'r prif un a ddethlir yng ngwasanaeth yr Offeren. Dysga'r eglwys fod y bara a'r gwin, sef y Cymun (o'i gysegru gan offeiriad) yn troi'n gorff a gwaed real Iesu Grist. Mae'r Forwyn Fair yn cael ei mawrygu fel 'y Forwyn Barhaus', Mam Duw, a Brenhines y Nefoedd; anrhydeddir hi mewn dogmâu a defosiynau. [8] Mae'r ddysgeidiaeth gymdeithasol Gatholig yn pwysleisio cefnogaeth i'r claf, y tlawd, a'r rhai mewn cystudd trwy weithredoedd corfforol ac ysbrydol da. Mae'r Eglwys Gatholig yn trefnu miloedd o ysgolion Catholig, ysbytai, a chartrefi plant amddifad ledled y byd, a hi yw'r darparwr addysg a gofal iechyd anllywodraethol mwya'r byd.[9] Ymhlith ei gwasanaethau cymdeithasol eraill mae nifer o sefydliadau elusennol a dyngarol.

Mae'r Eglwys Gatholig wedi dylanwadu'n fawr ar athroniaeth y Gorllewin, ar ddiwylliant, celf, cerddoriaeth a gwyddoniaeth. Ers yr 20g, mae'r mwyafrif yn byw yn hemisffer y de, oherwydd seciwlareiddio yn Ewrop, ac erledigaeth yn y Dwyrain Canol. Rhannodd yr Eglwys Gatholig gymundeb â'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol tan y Sgism Dwyrain-Gorllewin yn 1054, pan gwestiynwyd awdurdod y pab. Cyn Cyngor Effesus yn 431 OC, roedd Eglwys y Dwyrain hefyd yn rhannu yn y cymun hwn, fel y gwnaeth yr Eglwysi Uniongred Dwyreiniol gerbron Cyngor Chalcedon yn 451 OC. Yn yr 16g, arweiniodd y Diwygiad Protestannaidd at wahaniad arall. O ddiwedd yr 20g, mae'r Eglwys Gatholig wedi cael ei beirniadu'n hallt am ei dysgeidiaeth ar rywioldeb, ei hathrawiaeth yn erbyn ordeinio merched, a'r modd yr ymdriniodd ag achosion cam-drin rhywiol yn ymwneud â chlerigwyr.

  1. http://press.vatican.va/content/salastampa/en/bollettino/pubblico/2017/04/06/170406e.html. dyddiad cyhoeddi: 2017.
  2. Mark A. Noll. The New Shape of World Christianity (Downers Grove, IL: IVP Academic, 2009), 191.
  3. O'Collins, p. v (preface).
  4. "Lumen gentium". www.vatican.va. Cyrchwyd 11 Hydref 2020.
  5. "Vatican congregation reaffirms truth, oneness of Catholic Church". Catholic News Service. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Gorffennaf 2007. Cyrchwyd 17 Mawrth 2012.
  6. Bokenkotter 2004.
  7. Colin Gunton. "Christianity among the Religions in the Encyclopedia of Religion", Religious Studies, Vol. 24, number 1, page 14. In a review of an article from the Encyclopedia of Religion, Gunton writes: "[T]he article [on Catholicism in the encyclopedia] rightly suggests caution, suggesting at the outset that Roman Catholicism is marked by several different doctrinal, theological and liturgical emphases."
  8. "The Four Marian Dogmas". Catholic News Agency. Cyrchwyd 25 Mawrth 2017.
  9. Agnew, John (12 Chwefror 2010). "Deus Vult: The Geopolitics of Catholic Church". Geopolitics 15 (1): 39–61. doi:10.1080/14650040903420388.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy