Hanes Cymru |
---|
Cynhanes Cymru |
Oes y Celtiaid |
Cyfnod modern cynnar |
Teyrnasoedd |
Rhestr digwyddiadau |
Iaith |
Crefydd |
Llenyddiaeth |
Deddfau pwysig
|
Mytholeg a symbolau |
Hanesyddiaeth |
WiciBrosiect Cymru |
Mae'r Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru yn ymestyn o tua 600 hyd at 1067 pan ddechreuodd ymosodiadau'r Normaniaid ar ororau Cymru.
Yn nechrau'r cyfnod roedd rhai rhannau o Gymru, yn enwedig Powys, yn dod o dan bwysau cynyddol oddi wrth yr Eingl-Sacsoniaid, yn enwedig teyrnas Mersia. Collodd Powys cryn dipyn o'i thiriogaeth, oedd yn arfer ymestyn i'r dwyrain o'r ffin bresennol, gan gynnwys yr hen ganolfan, Pengwern. Efallai fod adeiladu Clawdd Offa, yn draddodiadol gan Offa, brenin Mersia yn yr 8g, yn dynodi ffin wedi ei chytuno.
Y cyntaf i deyrnasu dros ran helaeth o Gymru oedd Rhodri Mawr, yn wreiddiol yn frenin Teyrnas Gwynedd, a daeth yn frenin Powys a Ceredigion hefyd. Pan fu ef farw, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei feibion, ond gallodd ei ŵyr, Hywel Dda, ffurfio teyrnas Deheubarth trwy uno teyrnasoedd llai y de-orllewin, ac erbyn 942 roedd yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Yn draddodiadol, cysylltir ef a ffurfio Cyfraith Hywel trwy alw cyfarfod yn Hendy-gwyn ar Daf. Pan fu ef farw yn 950 gallodd ei feibion ddal eu gafael ar Ddeheubarth, ond adfeddiannwyd Gwynedd gan y frenhinllin draddodiadol.
Erbyn hyn roedd y Llychlynwyr yn ymosod at Gymru, yn enwedig y Daniaid yn y cyfnod rhwng 950 a 1000. Dywedir i Godfrey Haroldson gymeryd dwy fil o gaethion o Ynys Môn yn 987, a thalodd brenin Gwynedd, Maredudd ab Owain, swm fawr i'r Daniaid i brynu ei bobl yn ôl o gaethiwed.
Gruffudd ap Llywelyn oedd y teyrn nesaf i allu uno'r teyrnasodd Cymreig. Brenin Gwynedd ydoedd yn wreiddiol, ond erbyn 1055 roedd wedi gwneud ei hun yn frenin bron y cyfan o Gymru ac wedi cipio rhannau o Loegr ger y ffin. Yn 1063 gorchfygwyd ef gan Harold Godwinson a'i ladd gan ei ŵyr ei hun. Rhannwyd ei deyrnas unwaith eto, gyda Bleddyn ap Cynfyn a'i frawd Rhiwallon yn dod yn frenhinoedd Gwynedd a Phowys.