Math | ffermdy, adeilad amgueddfa |
---|---|
Cysylltir gyda | Hedd Wyn |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Trawsfynydd |
Sir | Trawsfynydd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 263.5 metr |
Cyfesurynnau | 52.8942°N 3.89974°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Ffermdy a'i leolir tua milltir i'r dwyrain o Drawsfynydd, Gwynedd, ydy Yr Ysgwrn. Mae'n dyddyn sydd wedi ei gosod ar ddau lawr â to llechi, arferai eiddew orchuddio'r waliau.[1] Credir ei fod yn dyddio'n ôl i 1519.[2]
Dyma hen gartref y bardd enwog Hedd Wyn, a'r teulu yw'r perchnogion hyd heddiw. Mae'r Gadair Ddu (cadair enwog yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenbedw, 1917) yn cael ei chadw yn y parlwr. Cyrhaeddodd y Gadair ar dren o Lerpwl, gyda lliain du drosti.