Am ddefnydd arall o'r gair "ysgol", gweler Ysgol (gwahaniaethu)
Lle a ddynodir ar gyfer addysgu yw ysgol. Fel arfer y mae'n sefydliad (ac yn adeilad) lle mae disgyblion neu fyfyrwyr, sydd fel arfer yn blant neu yn bobl ifainc, yn dysgu drwy law athrawon. Lle canolog y dysgu fel arfer yw'r ystafell ddosbarth, ond dim o angenrheidrwydd bob amser. Gall y dysgu fod mewn labordy er enghraifft, neu hyd yn oed yn yr awyr agored.
Mae'r math o sefydliad a ddisgrifir fel ysgol yn amrywio o wlad i wlad.
Gelwir yr hyn sy'n cael ei addysgu yn yr ysgol yn gwricwlwm a cheir Cwricwlwm Cenedlaethol sy'n nodi'n statudol yr hyn sy'n ofynnol i ddisgybl ei ddysgu.