Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle | |
---|---|
Arwyddair | Delfryd dysg, cymeriad |
Sefydlwyd | 1898 |
Math | Uwchradd |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Lleoliad | Ffordd y Brenin, Pen-y-groes, Gwynedd, Cymru, LL54 6AA |
AALl | Cyngor Gwynedd |
Disgyblion | 558 |
Rhyw | Merched a bechgyn |
Oedrannau | 11–18 |
Ysgol uwchradd Gymraeg ym Mhen-y-groes, Gwynedd, ydy Ysgol Dyffryn Nantlle. Sefydlwyd yr ysgol ym 1898 fel Ysgol Ramadeg Penygroes ar y safle lle saif ysgol gynradd y pentref, sef Ysgol Bro Lleu heddiw.
Arwyddair yr ysgol ydy Delfryd dysg, cymeriad.
Roedd 558 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2006.[1] Gall 91% o'r disgyblion siarad Cymraeg i lefel iaith gyntaf, er mai 78% sy'n dod o gartrefi lle'r Cymraeg yw'r brif iaith.[2]
Eisteddfod Gadeiriol Ysgol Dyffryn Nantlle ydy un o'r Eisteddfodau Ysgol hynaf yng Nghymru, a gynhelir ar ddiwedd mis Hydref. Yn Rhagfyr 2008, fe wnaeth yr ysgol gymryd rhan mewn cyngerdd ynghyd â Bryn Terfel yn Galeri, Caernarfon; gan ganu chwe chân newydd â gomisiynwyd gan Robat Arwyn - yn dwyn y teitl: 'Yn dy Gwmni Di".