Ystadegau y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru

Am y cerrig milltir pwysicaf, gweler: Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru.

Ar 28 Chwefror profwyd y person cyntaf yng Nghymru yn bositif o'r haint COVID-19 a elwir weithiau'n 'Ofid Mawr' ac ar 16 Mawrth 2020, bu farw'r person cyntaf yng Nghymru o'r haint.[1] Enw'r firws sy'n achosi'r haint hwn yw SARS-CoV-2, sef math o Goronafeirws RNA un-edefyn, ac fe'i gwelwyd am y tro cyntaf yn Wuhan, Tsieina yn Rhagfyr 2019.

Dyma grynodeb o'r ystadegau a ryddhawyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn y misoedd cyntaf daeth y niferoedd o brofion/achosion yn bennaf o gleifion a gymerwyd i'r ysbyty, neu weithwyr iechyd a gafodd brawf. Ers 18 Mai 2020 caiff unrhyw berson dros 5 oed ofyn am brawf.[2] Mae'r nifer marwolaethau yn cynnwys achosion a adroddwyd i ICC mewn ysbyty neu gartref gofal lle cafwyd prawf positif mewn labordy a lle mae meddyg yn credu mai COVID-19 wnaeth achosi'r farwolaeth. Ffynhonnell y ffigyrau yma yw gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bob wythnos mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyhoeddi ystadegau am farwolaethau a gofrestrwyd yn y DU ac mae'n rhoi cyfanswm o'r holl farwolaethau sy'n gysylltiedig â choronafeirws.[3]

Ni fydd diweddaradau ystadegau cyson ar ôl 25 Mai 2022

Diweddarwyd diwethaf: 25 Mai 2022 Niferoedd Cymru
Nifer yr unigolion a brofwyd: 5,069,486
Nifer yr achosion: 874,425
Nifer y brechiadau (dos cyntaf / ail ddos / brechiad atgyfnerthol): 2,559,001 / 2,418,070 / 1,980,140
Nifer y marwolaethau (ffigyrau dyddiol ICC): 7,473
Nifer y marwolaethau (ONS): 9,051 (hyd at 3 Rhagfyr 2021)
  1. "Coronafeirws: Y claf cyntaf o Gymru wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2020-03-16. Cyrchwyd 2020-04-06.
  2. Coronafeirws: Edrych nôl ar ddydd Llun, 18 Mai , BBC Cymru Fyw, 18 Mai 2020. Cyrchwyd ar 19 Mai 2020.
  3. (Saesneg) Deaths registered weekly in England and Wales, provisional (26 Mai 2020).

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy