Ystoryaeu Seint Greal

Rhamant Arthuraidd Cymraeg Canol yw Ystoryaeu Seint Greal (Cymraeg Diweddar: Ystorïau Saint Greal). Cyfieithiad neu addasiad o ddwy ramant Hen Ffrangeg ydyw, sef La Queste del Saint Graal a Le Haut Livre du Graal neu Perlesvaus sy'n ffurfio rhan o'r cylch a adweinir fel cylch Lawnslot-Greal. Golygwyd rhan gynta'r testun (Y Cais) gan Thomas Jones (cyhoeddwyd 1992). Golygwyd yr holl destun yn 1876 gan Robert Williams fel Y Seint Greal yn ei Selections from the Hengwrt Manuscripts.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy