Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 5,854, 5,209 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 716.14 ha |
Cyfesurynnau | 51.6428°N 3.4539°W |
Cod SYG | W04000712 |
Cod OS | SS994947 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elizabeth (Buffy) Williams (Llafur) |
AS/au y DU | Chris Bryant (Llafur) |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Ystrad Rhondda (hefyd Ystrad neu Yr Ystrad). Saif yng nghwm Rhondda Fawr.
Mae Ystrad yn bentref ar ffurf stribyn hir a chul, gyda'r rhan fwyaf o'r siopau ar hyd y Stryd Fawr, a chyfres o strydoedd llai o'i gwmpas a nodweddir gan dai teras; cynllun sy'n nodweddiadol o Gymoedd y De.
Rhed afon Rhondda Fawr trwy'r pentref, gan ei wahaniaethu oddi ar Y Gelli ar y lan ddeheuol. Nodweddir Ystrad Rhondda hyd heddiw gan ymdeimlad cryf o gymuned.