Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 556, 582 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 8,278.42 ha |
Gerllaw | Afon Mellte |
Cyfesurynnau | 51.8089°N 3.5549°W |
Cod SYG | W04000355 |
Cod OS | SN929134 |
Cod post | CF44 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Ystradfellte.[1] Saif yn ne'r sir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y Fforest Fawr, rhwng Hirwaun ac Aberhonddu. Ceir sawl rhaeadr cyfagos ac mae'n lle boblogaidd gan gerddwyr. Roedd hostel ieuenctid yna, ond mae wedi cau erbyn hyn.
Yng nghyffiniau'r pentref ceir Maen Madog, carreg Gristionogol gynnar gydag arysgrif Ladin arni.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]