Zaragoza

Zaragoza
Mathbwrdeistref Sbaen Edit this on Wikidata
PrifddinasZaragoza City Edit this on Wikidata
Poblogaeth686,986 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJorge Azcón Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Bethlehem, Tashkent, Tijuana, Barnaul, Biarritz, Coimbra, Dalian, La Paz, La Plata, Skopje, Yulin, Zamboanga City, Tirana, Móstoles, Pau, Zaragoza Edit this on Wikidata
NawddsantValerius II of Saragossa, Our Lady of the Pillar Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolQ107553246 Edit this on Wikidata
SirTalaith Zaragoza Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd973,780,000 m² Edit this on Wikidata
Uwch y môr211 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Ebro, Afon Huerva, Gállego, Imperial Canal of Aragon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.65°N 0.883333°W Edit this on Wikidata
Cod post50001–50022 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholZaragoza City Council Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Zaragoza Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJorge Azcón Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn Sbaen yw Zaragoza. Mae'n brifddinas Cymuned Ymreolaethol Aragón a thalaith Zaragoza. Gyda phoblogaeth o 667,034, hi yw'r bumed dinas yn Sbaen o ran poblogaeth,

Daw'r enw o'r enw Lladin gwreiddiol Caesar Augusta, a drodd yn Saraqosta yn Arabeg yna'n Zaragoza yn Sbaeneg. Saif ar lannau Afon Ebro, 199 medr uwch lefel y môr. Mae mewn safle ganolog iawn, tua 300 km o bob un o ddinasoedd Madrid, Barcelona, Valencia, Bilbao a Toulouse.

Rhwng 14 Mehefin ac 14 Medi 2008 bydd arddangosfa ryngwladol Expo Zaragoza 2008 yn cael ei gynnal yno. Mae'r maes awyr wedi tyfu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig wedi i Ryanair dechrau hedfan yno. Yn 2003 dechreuodd gwasanaeth trên cyflym sy'n cysylltu'r ddinas a Madrid a Lleida.

El Pilar, Afon Ebro a'r Puente de Piedra

Ymhlith golygfeydd Zaragoza mae El Pilar, lle ceir lluniau gan Goya, yr Eglwys Gadeiriol a'r Palacio de la Aljafería, oedd yn balas y brenin Al-Muqtadir pan oedd Saraqusta yn deyrnas Islamaidd annibynnol.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in