Pan-geltiaeth

Y chwe gwlad Geltaidd
Pan-geltiaeth
Enghraifft o'r canlynolpan-nationalism Edit this on Wikidata
Gludyn car baner Pan-geltiaeth, Caerdydd 2022

Mudiad a ffordd o feddwl o blaid annog cyfnewid diwylliannol a gwleidyddol rhwng y gwledydd Celtaidd yw pan-geltiaeth[1] neu oll-geltiaeth[2]. O ddiwedd y 18fed ganrif, fe ddatblygodd ochr yn ochr â rhamantiaeth a'r Dadeni Celtaidd.

Er nad oedd un "genedl" geltaidd yn yr henfyd, erbyn heddiw mae Iwerddon, yr Alban, Cymru, Cernyw, Llydaw ac Ynys Manaw yn ystyried eu hunain yn ddisgynyddion i'r Celtiaid.

  1. "Y Traethodydd (1900-2007) | Cyf. XCVIII (XII) (426-429) | 1943 | Cylchgronau Cymru - Llyfrgell Genedlaethol Cymru". cylchgronau.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2022-09-14. Ffrwyth Pan-Geltiaeth yr Arglwyddes Llanofer, ymhlith pethau eraill, yw'r syniad cyfeiliornus hwn, meddir yma.
  2. "CARTREFOL.|1904-09-14|Baner ac Amserau Cymru - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2022-09-14. Dan ysbrydiaeth Oll-Geltiaeth fe'n temtir i ofyn ai nid 'Porthlafan' ydyw Porthleven?'

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy