Gwas neidr

Gweision neidr
Gwäell asgell aur - (Sympetrum flaveolum)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Anisoptera
Teuluoedd[1]

$Uwchdeulu yw Aeshnoidea, Cordulegastroidea a Libelluloidea. $$Nid yw'n gytras

Y gwas neidr Mesurupetala, Jurasig hwyr (Tithonian), calchfaen Solnhofen, yr Almaen.
Un o nodweddion pennaf y gweision neidr yw eu llygaid mawr, symudliw (iridescent).

Pryf gydag adenydd dwbwl sy'n perthyn i urdd Odonata yw gwas neidr (hefyd: gwas y neidr) (lluosog: gweision neidr). Mae'n byw ger llynnoedd, nentydd a gwernydd ac maen nhw'n bwyta mosgitos, gwybed, clêr, gwenyn, gloynnod byw a phryfed eraill. Nid ydynt yn brathu nac yn pigo pobl. Mae'r gair Groeg Anisoptera yn golygu "adenydd anwastad" gan fod yr adain cefn yn lletach na'r rhai blaen.[2]

Un o brif nodweddion y gwas neidr yw ei lygaid cyfansawdd enfawr, dau bâr o adenydd a chorff hir sy'n eu galluogi i weld bron i 360 gradd - i bob cyfeiriad. Fel pob pryfyn arall mae ganddyn nhw chwe choes; ond nid ydy'r rhan fwyaf ohonyn nhw, bellach, yn medru cerdded. Mae'r gwas y neidr ymhlith y pryfaid a all hedfan gyflymaf ac am gyfnod hir e.e. ar draws y cefnforoedd. Gallant hedfan i 6 chyfeiriad: ymlaen, yn ôl, i fyny, i lawr, i'r chwith ac i'r dde.[3] Mae'r Ymerawdwyr yn medru hedfan ar gyflymder uchaf o 10–15 metr yr eiliad (22–34 mya).

Dim ond am chwe mis mae rhai gweision y neidr yn byw, tra bod eraill yn byw cyn hired â chwe neu saith mlynedd.

Ceir oddeutu 3000 math gwahanol o weision neidr ac mae tua 5,900 o rywogaethau yn yr urdd Odonata gan gynnwys y mursennod.[4][5]

  1. Martin Schorr, Martin Lindeboom, Dennis Paulson. "World Odonata List". University of Puget Sound. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-28. Cyrchwyd 25 Mawrth 2014.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  2. Odonata at Tree of Life web project. Retrieved 2011-09-18.
  3. Waldbauer, Gilbert (2006). A Walk Around the Pond: Insects in and Over the Water. Harvard University Press. t. 105. ISBN 9780674022119.
  4. Dunkle, Sidney W. (2000). Dragonflies Through Binoculars: a field guide to the dragonflies of North America. Oxford University Press. ISBN 0-19-511268-7.
  5. Zhang, Z.-Q. (2011). "Phylum Arthropoda von Siebold, 1848 In: Zhang, Z.-Q. (Ed.) Animal biodiversity: An outline of higher-level classification and survey of taxonomic richness". Zootaxa 3148: 99–103. http://mapress.com/zootaxa/2011/f/zt03148p103.pdf.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy