Metaboblogaeth

Mae metaboblogaeth yn cynnwys grŵp o boblogaethau gwahanol o'r un rhywogaeth sy'n rhyngweithio ar ryw lefel. Cafodd y term metaboblogaeth ei fathu gan Richard Levins yn 1969 i ddisgrifio model o ddeinameg poblogaeth o bryfed mewn meysydd amaethyddol, ond mae'r syniad wedi cael ei gymhwyso yn fwyaf fras i rywogaethau mewn cynefinoedd sy'n ddarniog yn naturiol neu yn artiffisial. Yng ngeiriau Levins ei hun, mae'n cynnwys "poblogaeth o boblogaethau".


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy